DATGANIAD YSGRIFENEDIG

GAN

LYWODRAETH CYMRU

 

 


TEITL

 

 

Rheoliadau Caffael Cyhoeddus (Cytundeb ar Gaffael gan Lywodraethau) (Trothwyon) (Diwygio) 2023

DYDDIAD

27 Hydref 2023

GAN

Rebecca Evans AS, Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

 

 

RHEOLIADAU CAFFAEL CYHOEDDUS (CYTUNDEB AR GAFFAEL GAN LYWODRAETHAU) (TROTHWYON) (DIWYGIO) 2021

 

Trosolwg o Bolisi'r OS:

 

Mae angen diwygio deddfwriaeth gaffael (a nodir isod) er mwyn gweithredu'r Cytundeb ar Gaffael gan Lywodraethau yn ddomestig o dan Reoliadau Caffael Cyhoeddus (Cytundeb ar Gaffael gan Lywodraethau) (Trothwyon) (Diwygio) 2021.

 

Y Gyfraith sy'n cael ei diwygio:

 

 

("y Rheoliadau Caffael")

 

Diben y gwelliannau

 

Mae'r offeryn hwn yn diweddaru'r trothwyon ariannol y gellir eu hadolygu ym maes caffael cyhoeddus yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon sy'n rheoli'r gweithdrefnau ar gyfer dyfarnu contractau cyhoeddus ar gyfer nwyddau, gwaith a gwasanaethau.

 

Mae'r OS a'r Memorandwm Esboniadol cysylltiedig, sy'n nodi effaith pob gwelliant ar gael yma:  

 

https://www.legislation.gov.uk/uksi/2023/1117/contents/made    

 

Unrhyw effaith y gall yr OS ei chael ar gymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru

 

Nid yw'r OS yn cael unrhyw effaith ar gymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru.

 

Unrhyw effaith y gallai'r OS ei chael ar gymhwysedd deddfwriaethol y Senedd

 

Nid yw'r OS yn cael unrhyw effaith ar gymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

 

Pam y rhoddwyd caniatâd

 

Dim ond Gweinidogion Swyddfa’r Cabinet sydd â’r pŵer i wneud y newidiadau hyn i’r trothwyon ariannol. Mae angen y newidiadau hyn i sicrhau bod y DU yn cydymffurfio â’i hymrwymiadau o dan y GPA.  Rydym yn fodlon i Lywodraeth y DU wneud y Rheoliadau hyn i’r graddau eu bod yn ymwneud â chymhwysedd datganoledig.